Tafod Arian
Lansio Tafod Arian : datblygiad diweddaraf Lleuwen Steffan ac emynau llafar gwlad Cymru.
Mae Lleuwen Steffan yn teithio i hanner cant o gapeli yng Nghymru, gan gyflwyno gwaith cerddorol newydd wedi ei seilio ar emynau emynau coll y werin.
Fe aeth yr emynau hyn yn angof yng Nghymru ôl-Gristnogol a bwriad Lleuwen gyda prosiect Tafod Arian yw ail-gyflwyno’r hen emynau mewn cyd-destun cerddorol cwbl newydd.
Pan glywodd Lleuwen yr emynau hyn yn archif sain Amgueddfa Sain Ffagan, fe wyddai nad oedd hi wedi eu clywed na’u gweld o’r blaen. A hithau wedi ymddiddori ag emynau Cymraeg ar hyd ei hoes, fy wyddai nad oeddent yn y llyfrau emynau emwadol cyfredol. Ymchwiliodd ymhellach a doedd dim golwg ohonynt yn yr argraffiadau hŷn chwaith llyfrau. Emynau’r werin yw rhain, wedi eu trosglwyddo ar lafar gan Gymry’r gorffennol.
Yn sgîl ei pherfformiadau yn y capeli, mae’r gerddoriaeth yn esblygu. Yn dilyn ei pherfformiadau hyd yma, mae Lleuwen wedi derbyn negeseuon gan bobl sydd am rannu eu archifau teuluol e.e recordiadau o ganu pwnc a hen lyfrau nodiadau yn cynnwys mwy o emynau llafar gwlad. Mae archifau hyn yn cael eu bwydo mewn i’r gwaith a cyfansoddiad Tafod Arian yn esblygu a newid o hyd.
“Dw i am alw’r gwaith yma yn Tafod Arian o hyn ymlaen … mae’n gymaint mwy na fi” meddai Lleuwen. “Dim ond y negesydd ydw i.”
Mewn partneriaeth â’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Lleuwen wedi cael cefnogaeth y Cyngor Prydeinig i ddatblygu Tafod Arian. Bydd cronfa Cymru-Ffrainc yn dod a rhai o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru a Llydaw ynghyd i berfformio’r gerddoriaeth newydd, gan rannu cyfoeth traddodiad emynyddiaeth Cymru gyda’r byd.